Llofnodwch y ddeiseb heddiw a lleisiwch eich protest yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddifa moch daear yng Nghymru fel rhan o strategaeth i fynd i’r afael â thwbercwlosis mewn gwartheg.

Mae’r RSPCA wedi’i syfrdanu gan y penderfyniad i ddifa moch daear ond mae’n croesawu’r cynlluniau i gynyddu profion ar wartheg a bioddiogelwch.

Mae’r Grŵp Gwyddonol Annibynnol (ISG) wedi goruchwylio treial difa moch daear yn Lloegr; fe barodd am 10 mlynedd, ac fe gostiodd £34 miliwn a bywydau bron i 11,000 o foch daear. Darganfu’r ymchwil fod difa moch daear yn newid ymddygiad cymdeithasol y moch daear sydd ar ôl, ac mae hynny, yn ei dro, yn cynyddu’r perygl o ymledu’r afiechyd i foch daear eraill ac i wartheg. Dim ond drwy gael gwared â moch daear o ardaloedd eang iawn y byddai modd osgoi’r perygl hwn o gynnydd yn yr afiechyd. Tybiai’r Grŵp Gwyddonol na fyddai difa moch daear ar y fath raddfa yn ddewis ymarferol na hyfyw i’w reoli, oherwydd y pryderon logistaidd, economaidd, cyfreithiol, amgylcheddol a lles. Daethant i’r casgliad, felly, er bod moch daear yn ffynhonnell TB mewn gwartheg, na fyddai difa moch daear yn gwneud unrhyw gyfraniad o werth i reoli TB mewn gwartheg ym Mhrydain.

Er gwaethaf hyn, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi penderfynu y dylai difa moch daear fynd yn ei flaen. Cyhoeddodd y Gweinidog dros Faterion Gwledig, Elin Jones, gynlluniau am dreial difa mewn ardal yng Ngogledd Sir Benfro ynghyd â mesurau eraill.

Cred yr RSPCA y bydd y ffordd y dewiswyd yr ardal hon yn golygu na fydd unrhyw wersi sy’n cael eu dysgu yn berthnasol i weddill y wlad, os dysgir unrhyw wersi o gwbl. Bydd hefyd yn anodd dweud pa rannau o strategaeth reoli’r llywodraeth sydd wedi gweithio efallai.

Bydd y difa’n cael ei gydlynu a’i gyflawni gan y llywodraeth a disgwylir mai’r dull fydd eu maglu mewn cewyll a’u saethu.

Nid yw TB ar y rhan fwyaf o foch daear. Ond nid yw’n ymarferol darganfod pa foch daear sydd â’r haint yn y gwyllt. Mae hyn yn golygu na fydd TB ar y rhan fwyaf o’r moch daear a gaiff eu lladd. Gallai difa moch daear achosi dioddef mawr ac mewn gwirionedd gallai olygu bod yr afiechyd yn lledaenu mwy.

Cred yr RSPCA y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru fod yn awr yn canolbwyntio ar wella mesurau rheoli yn seiliedig ar wartheg, fel profion cyn ac ar ôl eu symud a chamau bioddiogelwch caeth, yr oedd ISG yn credu y byddent yn cwtogi’n sylweddol ar TB. Mae angen monitro a gorfodi’r camau’n briodol i sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni ac yn cael amser i gael effaith.

Cofnodwch eich pryder â Gweinidog y Cynulliad dros Faterion Gwledig, Elin Jones, ac ychwanegwch eich enw at y ddeiseb.

I gael rhagor o wybodaeth am ein hymgyrch i atal difa moch daear yng Nghymru a Lloegr, ewch i www.rspca.org.uk/badgers

LLOFNODWCH Y DDEISEB YN AWR!


Dewiswch iaith
(please choose language)

LLOFNODWCH Y DDEISEB!

Rwy’n galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i beidio â mynd ymlaen â’r bwriad i ladd moch daear yng Nghymru.

Os hoffech gael y newyddion diweddaraf dros yr e-bost, rhowch eich cyfeiriad e-bost isod.

Gallwch adael y rhestr ar unrhyw adeg drwy glicio ar y negeseuon e-bost y byddwn yn eu gyrru atoch

Os hoffech gael y newyddion diweddaraf fel neges testun, rhowch eich rhif ffôn symudol isod.

Gallwch adael unrhyw adeg drwy yrru neges yn dweud STOP i 60022

Gyrrwch ef i’ch ffrindiau

Byddwn ond yn defnyddio eich gwybodaeth at y diben a nodwyd